nhs funded community basedhome vision care north wales opticians

cgspex navigation








 

 


01745 851159 mobile 0777 177 1827 default text sizebig textbiggest text

Welcome to Home Vision Care.
Registered with the General Optical Council, corporate registration number CO-3096.
Director - Christopher M Gould FCOptom.

Manylion pwysig i'w darganfod cyn ymweliad yr optegyddwelsh

Bydd angen yr wybodaeth isod yn ystod yr ymweliad:

  • Enw eich meddyg a chyfeiriad y feddygfa gan gynnwys y côd post.

  • Os ydych yn derbyn budd-daliadau, rhaid nodi yn union y budd-daliad, gan fod rhai yn swnio yn debyg i'w gilydd. Mae'n bosib y byddwch yn deilwng o daleb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gwiriwch hyn yn ofalus.
  • Manylion am unrhyw feddyginiaeth rydych yn gymryd ar hyn o bryd. Byddai ffurflen ailadrodd presgriptiwn yn ddelfrydol.
  • Os yn berthnasol, byddai gwybodaeth am hanes o achosion o glaucoma yn y teulu, yn werthfawr.
  • Unrhyw hanes o alegredd e.e gwrthfiotig neu alegredd i nicel (nickel)
  • Os ydych wedi derbyn diferion ar gyfer y llygaid (eye drops) gan y meddyg neu'r ysbyty, hoffwn weld y botel er mwyn cofnodi'r wybodaeth.
  • Sefyllfa ddelfrydol ar gyfer profi'r llygaid yn y cartref

    (Peidiwch a phoeni os nad yw'n bosib trefnu'r cyfan o'r pwyntiau isod - dyma'r sefyllfa ddelfrydol. Gallaf edrych ar eich llygaid os nad yw'r holl amgylchiadau yn bosib.)

  • Mae angen tywyllu'r ystafell e.e. gyda llenni. Mae angen golau cryf o'ch cefn.
  • Mae angen gallu canolbwyntio heb swn teledu, ffôn yn canu neu bobl eraill yn siarad yn yr ystafell. Mae cael un person arall e.e. gofalwr yn bresennol yn gallu bod o gymorth.
  • Byddaf angen wyneb gwastad o fewn tua 3 medr i osod y siart prawf. ( Mae top y teledu yn eithaf defnyddiol ar gyfer y gwaith yma.)
  • Dwy gadair uchel, un i chi ac un i minnau. Os nad yw hyn yn bosib gellir gwneud addasiad. Gellir profi eich llygaid yn y gwely os bydd angen.
  • Bwrdd bychan cyfagos i osod y lensys prawf.
  • Cyfleusterau golchi dwylo.


  • Digon o amser - mae angen caniatáu awr i'r apwyntiad.